Pwyllgor Craffu Busnes a Menter

13 Gorffennaf 2011

 

EBC(4)-01-11 Papur 1

 

1.         CYFLWYNIAD

 

Yn y cyflwyniad i faniffesto Llafur Cymru, dywedodd y Prif Weinidog:

“Yn greiddiol i’n gwaith, bydd Llafur Cymru yn brwydro dros swyddi a byddwn yn ymgyrchu dros adferiad.”

 

Tynnir sylw at swyddi a sgiliau drwy gydol y ddogfen honno, sydd wedi derbyn mandad cryf gan y cyhoedd yng Nghymru. Ategir ein hymrwymiad i’r agenda hwn gan y ffaith mai Cronfa Swyddi Cymru oedd ein hadduned gyntaf a phwysicaf ym maniffesto etholiad y Cynulliad.

 

Mae ein hamcanion ar gyfer yr Adran Addysg a Sgiliau yn adlewyrchu’r hyn a ddywedom yn y maniffesto hwnnw, sef:

 

 

Mae sgiliau yn hanfodol ar gyfer twf economaidd a chyfiawnder cymdeithasol. Mae gweithwyr â sgiliau yn cynorthwyo cwmnïau i fanteisio ar ddulliau technolegol arloesol a ffyrdd newydd o weithio, ac mae sgiliau hefyd yn pennu cyfleoedd unigolion mewn bywyd:mae pobl fwy cymwys yn fwy tebygol o weithio ac ennill mwy o gyflog. Mae rhaglen waith Llywodraeth Cymru yn nodi sgiliau yn hanfodol i wneud Cymru yn lle deniadol iawn i fyw, buddsoddi, cyflogi a thyfu ynddo. 

 

Mae’r papur hwn yn tynnu sylw at y prif flaenoriaethau darparu a datblygiadau a fydd yn arwain at gynnydd gyda’r amcanion hyn, gyda gwybodaeth ar gael sy’n diweddaru ac yn ymateb i’r materion a godwyd yn Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor Menter a Dysgu ym Mawrth 2011.

 

 

2.         HELPU POBL I FYD GWAITH

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ein siom gyda’r cynigion yn Agenda Diwygio Lles Clymblaid y DU.Yn ystod y misoedd diwethaf, yr wyf wedi cael trafodaeth reolaidd gydag Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gwaith a Phensiynau, a’i dîm gweinidogol, i ddadlau am ddull mwy blaengar i ddelio â’r rheini sydd fwyaf tebygol o fod dan anfantais.Yr oeddwn yn hynod siomedig o glywed am benderfyniad Llywodraeth Glymblaid y DU i roi’r gorau i’r Gronfa Swyddi’r Dyfodol, rhaglen y mae partneriaid o bob cwr o Gymru wedi ei chefnogi.

 

Er gwaethaf yr heriau hyn, ceir cytundeb ynghylch yr angen i helpu pobl ifanc i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â diweithdra'r ifanc ac mae’n bwrw ymlaen â'r Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc. Yr ydym yn ystyried cynigion i gyflwyno rhaglen newydd i gyflawni’r adduned ynghylch Cronfa Swyddi Cymru yn y maniffesto, a fyddai’n creu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc 16-24 mlwydd oed. Mae cynigion wrthi’n cael eu datblygu i’w rhoi ar waith, gyda’r bwriad o ddechrau darparu’n llawn yn gynnar yn 2012.

 

Yr haf hwn, byddwn yn cyflwyno cynllun dilynol i’r rhaglen Adeiladu Sgiliau, sydd wedi darparu hyfforddiant sylfaenol a chyflwyno i bobl o bob oed. Bydd pobl ifanc 16-17 mlwydd oed yn elwa o ‘Hyfforddeiaethau’ yn y dyfodol, a fydd yn cynnig rhagor o gymorth i bobl ifanc sy’n wynebu’r rhwystrau anoddaf i gyflogaeth.Ar gyfer oedolion, mae'r rhaglen Camau at Waith yn parhau i ganolbwyntio ar gyflogadwyedd a bydd yn ymestyn yr arfer da a nodwyd drwy bartneriaethau â chyflogwyr lleol.

 

Yn ogystal â chefnogi’r rheini sydd bellaf o’r farchnad Lafur i geisio’r cyfleoedd y maent yn ei haeddu, bydd y rhaglen Camau at Waith hefyd yn darparu cymorth i oresgyn eu rhwystrau penodol.

 

Yr ydym wedi clustnodi swmp contractau sydd y tu hwnt i lefel y cyllid hanesyddol ar gyfer y rhaglen hon.

 

Yn fwy cyffredinol, ac er gwaethaf mynegi ein pryderon, mae gan y Diwygiadau Lles ledled y DU oblygiadau mawr i’n hymdrechion i fynd i’r afael â diweithdra yng Nghymru. Yn aml iawn, mae cymhellion a phecynnau cymorth ar gyfer recriwtio unigolion sy’n derbyn budd-daliadau yn ddryslyd a gallant fod yn anodd eu cyfeirio. Bydd y Cyd-fwrdd Cyflenwi Rhaglenni Cyflogaeth yn dwyn cynigion gerbron yn ddiweddarach eleni i ddatblygu’r perthnasoedd traws-asiantaethol angenrheidiol a’r protocolau i gyflwyno cymorth cydlynol i fusnesau.

 

Drwy barhau i gyflwyno’r rhaglen ReAct, byddwn yn parhau i roi cymorth i’r rheini sy’n wynebu diswyddiadau. Mae ReAct II, a gyflwynwyd o’r 1af Ebrill 2011, yn cynyddu’r cymhorthdal cyflog uchaf i gyflogwyr o £2,080 i £3,000 y person yn ystod blwyddyn gyntaf y gyflogaeth i annog cyflogwyr i gyflogi gweithwyr sydd wedi colli eu swyddi. Mae grant hyfforddi o hyd at £1,000 y person yn helpu i sicrhau y bydd ganddynt y sgiliau i aros mewn cyflogaeth. Mae newid ym mhwyslais y rhaglen yn ReAct II, o hyfforddiant gyda'r bwriad o ddiweddaru sgiliau gweithwyr sydd wedi colli eu swyddi, i well strwythur cymorth i annog cyflogwyr i recriwtio gweithwyr sydd wedi colli eu swyddi.

 

Yng ngoleuni’r cynnydd sydyn a ragwelir yn y galw am y Cynllun Gweithredu ar Ddiswyddiadau (ReAct) o ganlyniad i golli swyddi yn y sector cyhoeddus, clustnodwyd £5miliwn o gyllid o’r Gronfa Drosiannol yn 2011-12 i raglen newydd, Addasu.Mae’r rhaglen hon yn seiliedig ar ReAct ac fe’i cyhoeddwyd ym mis Ionawr 2011 i gynorthwyo’r sector cyhoeddus i roi sylw i heriau sy’n ymwneud â’r gweithlu. 

 

3.            CEFNOGI TWF BUSNESAU

 

Ein nod yw cefnogi twf a swyddi hyd a lled economi Cymru.

3a.       Cyflogwyr a Chwmnïau Angori

Mae rhaglenni megis ProAct a’i olynydd, Sgiliau Twf Cymru, wedi bod yn allweddol wrth gynorthwyo i gefnogi busnesau drwy’r dirwasgiad ac i adfer. Mae ein penderfyniad i ailgyflwyno ProAct mewn ymateb i anghenion busnesau gweithgynhyrchu yr effeithiwyd arnynt gan y Tsunami yn Japan, yn profi ein bod yn parhau i fod yn hyblyg ac yn ymateb i ddigwyddiadau sy'n newid, gan weithio gyda busnesau i sicrhau gweithrediadau strategol a chadw swyddi yng Nghymru. Bydd y cynllun yn ailagor am dri mis a bydd ar gael i gwmnïau gweithgynhyrchu yn ardal gydgyfeirio Cymru, sydd wedi cael eu gorfodi i weithredu neu ystyried cyflwyno trefniadau gweithio cyfnod byr. 

 

Bydd Rhaglen Datblygu’r Gweithlu yn parhau i fod yn brif lwybr i fusnesau gael mynediad at atebion i wella sgiliau eu gweithlu. Mae Rhaglen Datblygu’r Gweithlu yn seiliedig ar ymrwymiad i wrando ar gyflogwyr i ddeall eu hanghenion ac yna gweithio gyda hwy i ddarparu pecyn cymorth priodol. Mae cyllid dethol a dewisol hyblyg yn parhau i fod yn ffordd bwysig i ni allu ymateb yn gyflym i roi sylw i anghenion cyflogwyr. Ni phennir unrhyw fandio na graddio ffurfiol ar gymorth oherwydd anelir y cymorth i ddiwallu anghenion penodol pob busnes. Ar hyn o bryd, mae cyllidebau dewisol yn cael eu targedu ar gyfer (i) Cwmnïau Angori; (ii) Busnesau sy’n Bwysig yn Rhanbarthol; (iii) Busnesau yn y Sectorau Blaenoriaeth; a (iv) busnesau twf sy’n gysylltiedig â chreu swyddi. Ceir crynodeb o’r cymorth sydd ar gael i gyflogwyr, yn dibynnu ar angen, yn Atodiad 1. Gall pob cyflogwr yng Nghymru, gan gynnwys mudiadau trydydd sector, gael cymorth drwy Raglen Datblygu’r Gweithlu.

 

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu ein sylfaen BBaCh brodorol.Byddwn yn parhau â rhaglenni sydd wedi’u cynllunio’n benodol i ganiatáu i fusnesau bach a chanolig ganfod prentisiaethau perthnasol drwy ein Cynllun Cyd-noddi Prentisiaid.Yr ydym hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr o’r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, i ymchwilio i sut y gallwn ni wneud ein rhaglenni unigol yn fwy cydnaws, yn benodol i gefnogi microfusnesau i gyflogi gweithwyr am y tro cyntaf.

3b.       Prentisiaethau

Er ein bod wedi ymrwymo i gadw rhaglen Brentisiaeth ar gyfer pob oed, bydd y pwyslais fwyfwy ar greu cyfleoedd i bobl ifanc o dan 25. Roedd hwn yn ymrwymiad pwysig yn y maniffesto. Datblygiad pwysig eleni fydd cyflwyno’r Gwasanaeth Paru Prentisiaethau. Bydd y gwasanaeth hwn a gynigir ar y we yn galluogi prentisiaid posibl i gofrestru, chwilio am brentisiaethau gwag ac ymgeisio am brentisiaethau. Bydd cyflogwyr yn gallu cofrestru eu cwmnïau, cysylltu â darparwyr hyfforddiant lleol a hysbysebu prentisiaethau gwag.

 

Yr ydym hefyd yn parhau â’n Rhaglen Recriwtiaid Ifanc, sy'n cynnig cymhorthdal cyflog i gyflogwyr sy’n cymryd prentis 16-24 oed.  Bydd mil o leoedd ar gael eleni, ac mae’r lefel gweithgaredd hon wedi’i chynnwys wrth ddyrannu contractau. 

 

Mae Llwybrau at Brentisiaethau yn cynnig dewis dwys, seiliedig-yn-y-coleg i bobl ifanc. Byddwn yn parhau â’n hymrwymiad i’r rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau fel llwybr cryf i brentisiaeth, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ymgysylltiad a chyflogaeth pobl ifanc.Byddwn yn darparu oddeutu 2,000 o leoedd Llwybrau at Brentisiaeth yn 2011-12 ac yr ydym wedi sicrhau cymorth ariannol ESF i barhau â’r rhaglen hyd 2014.

 

Eleni, mae’r rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau wedi'i hymestyn ar draws deg sector yng Nghymru ac mae'r Cynghorau Sgiliau Sector wedi nodi’r galw ymysg cyflogwyr yn rhanbarthol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd cyflogwyr mewn sectorau sy’n bwysig i Economi Cymru, yn cael mynediad at bobl ifanc â sgiliau.   

 

3c.       Sgiliau Sylfaenol yn y Gweithle

Fel rhan o becyn cymorth sydd ar gael drwy Raglen Datblygu’r Gweithlu, byddwn yn cynorthwyo cyflogwyr i fynd i’r afael â'r costau a gwastraff potensial o ganlyniad i lefelau llythrennedd a rhifedd isel yn y gweithlu drwy’r Adduned Cyflogwr Sgiliau Sylfaenol. Cefnogir hyn gan gronfeydd Ewropeaidd drwy’r prosiectau Sgiliau Sylfaenol yn y Gweithle newydd sydd ar waith hyd a lled Cymru o fis Hydref 2010 tan fis Rhagfyr 2014. Bydd y prosiectau yn cefnogi dros 3600 o gyflogwyr a 30,000 o unigolion cyflogedig a bydd yn cynnwys prosiectau TG Cefn Gwlad Cymru sydd â'r nod o gynyddu sgiliau TG mewn microfusnesau yng nghefn gwlad. Mae Llywodraeth Cymru’n ariannu’r rhaglen hon yn llawn, gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae gan bob busnes y cyfle i gael cymorth drwy’r rhaglen hon. £20m dros 4 blynedd yw gwerth y rhaglen hon ar hyn o bryd.

 

3d.       Sgiliau Sector

Mae’r Adran Addysg a Sgiliau yn gweithio gyda’r Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i fwrw ymlaen â strategaethau sector Llywodraeth Cymru ac ymateb i anghenion Cwmnïau Angori a Chwmnïau sy’n Bwysig yn Rhanbarthol. Mae’r strategaethau hyn yn allweddol i’n huchelgais i wella twf economaidd a chynyddu lefel sgiliau mewn sectorau a busnesau sy’n bwysig yn economaidd yng Nghymru. Mae Uwch Reolwyr Sgiliau Sector arbennig yn yr Adran Addysg a Sgiliau yn canolbwyntio i sicrhau y gweithir yn effeithiol yn drawsadrannol mewn perthynas â datblygu lefel y sector. Mae Paneli Sector wedi amlygu sgiliau fel maes allweddol i ganolbwyntio arno ac maent nawr wrthi’n datblygu eu strategaethau. Yr ydym yn disgwyl am ganlyniadau’r adolygiad o gymorth sector gan Weinidog yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, a fydd yn darparu ymateb sgiliau priodol.

Yn unol â’n hymrwymiad i Ddatblygu Cynaliadwy, byddwn yn gweithio â phartneriaid i sicrhau y bydd darpariaeth hyfforddi ar gael i gyflwyno’r agenda carbon isel yng Nghymru.” O ran yr agenda carbon isel / twf mewn technolegau adnewyddadwy newydd, mae gennym brosiectau a rhaglenni sy’n targedu cadwraeth ynni ac ynni adnewyddadwy sy’n canolbwyntio’n bennaf ar y rheini sydd eisoes mewn cyflogaeth. Mae hyfforddiant â chymhorthdal yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd fel rhan o’r Prosiect Cyflwyno Sgiliau Carbon Isel gyda’r rhwydwaith Cynghorau Sgiliau Sector. Mae hwn yn cefnogi’r ymrwymiad i roi’r sgiliau a’r cyfleoedd i bobl fanteisio ar y twf mewn technolegau adnewyddadwy newydd yn uniongyrchol, a’r gyflogaeth a ddaw gyda chymdeithas wyrddach. Mae rhaglenni hefyd yn cael eu datblygu i alluogi diwydiannau i ddatblygu ‘sgiliau gwyrdd’. Mae hyn yn cynnwys Llwybr drwy Addysg Bellach fel rhan o’r rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau. Yr ydym yn gweithio’n frwd â’r Fforwm Sgiliau Busnes Gwyrdd i gyflwyno’r hyn y mae diwydiant ei angen.

3e.       Dysgu Undebau Llafur

Mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn cyflwyno prosiectau i wella sgiliau sylfaenol oedolion mewn gweithleoedd a gefnogir gan Undeb. Ein hymrwymiad yw parhau i gryfhau a datblygu Cronfa Ddysgu Undebau Cymru i gefnogi ymdrechion undebau llafur i annog cyflogwyr a gweithwyr i gymryd rhan mewn hyfforddiant. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £11m er 1999, ac mae'r Gronfa hon eisoes wedi cefnogi 153 o brosiectau, creu rhwydwaith o 100 o ganolfannau dysgu undebau gyda dros 1300 o gynrychiolwyr dysgu undebau, sydd wedi creu llwybr at ddysgu i dros 10,000 o weithwyr hyd a lled Cymru. Yn gynharach yn y flwyddyn, cyhoeddwyd pecyn cymorth £2.4m ar gyfer prosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, a bydd yn ariannu prosiectau sydd wedi’u cynllunio i roi sylw i anghenion sgiliau sylfaenol. Y gyllideb flynyddol ar gyfer y Gronfa yw £1.5m ar hyn o bryd, ac mae’r posibilrwydd o gynyddu hyn drwy ESF yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.

 

3f.        Cynghorau Sgiliau Sector

 

Mae Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau yn ailffocysu rôl y Cynghorau Sgiliau Sector.Mae eu cylch gwaith diwygiedig yn cynnwys mwy o ffocws ar gynyddu ‘uchelgais’ cyflogwyr – gyda Chynghorau Sgiliau Sector yn dod fwyfwy yn gyrff sy’n wynebu cyflogwyr, sy’n dwyn clymblaid o gyflogwyr parod ynghyd, yn eu sectorau, i arwain ar newid ac annog mwy o gyflogwyr i ddatblygu gweithleoedd sy’n perfformio’n dda a buddsoddi mwy mewn sgiliau ar bob lefel. Mae Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau yn wynebu lleihad o 40 y cant yn y cyllid dros dair blynedd yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant (2011/12 – 2014/15). Golyga hyn oblygiadau i’r rhwydwaith Cynghorau Sgiliau Sector sydd hyd yn hyn wedi derbyn cyllid craidd drwy Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau.

 

Byddwn yn parhau i sicrhau yr adlewyrchir anghenion Cymru yn llawn yn y trafodaethau am Bolisi Sgiliau Sector y DU. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n cynnal trafodaethau ar sail y pedair gwlad, er mwyn cytuno ar y gwasanaethau craidd (Cyffredinol) y bydd disgwyl i Gynghorau Sgiliau Sector eu darparu. Er mwyn gwella effeithlonrwydd, ansawdd ac effeithiolrwydd, bydd Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau yn symud o roi arian craidd i Gynghorau Sgiliau Sector i broses o gystadlu’n agored am gyllid o 2012 – 2013.  Caiff Cynghorau Sgiliau Sector a Sefydliadau Sgiliau Sector eu gwahodd i wneud cais am gyllid i ddarparu:Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (datblygu a chynnal a chadw), Datblygu Fframwaith Prentisiaeth, ac ar gyfer 2012/13 yn unig, Datblygu Cymwysterau Galwedigaethol. Fe’u gwahoddir hefyd i wneud cais i greu 14 adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad Lafur, ond byddant yn cystadlu am yr elfen hon yn erbyn partïon sydd â diddordeb, nad ydynt yn Gynghorau Sgiliau Sector.

 

3g.       Diwygio Cymwysterau

 

Yr ydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cymwysterau yn targedu’r rheini sydd o ansawdd, yn gredadwy ac yn berthnasol. Golyga hyn sicrhau ein bod yn cefnogi’r cymwysterau hynny sy’n diwallu anghenion dysgwyr er mwyn datblygu ac anghenion Economi Cymru. Er mwyn bwrw ymlaen â’r agenda hwn, byddwn yn adolygu’r holl gymwysterau ar gyfer y grŵp oed 14-19 i sicrhau y buddsoddir yn y cymwysterau mwyaf gwerthfawr.

 

Mae Adolygiad Cymwysterau Galwedigaethol yn Lloegr gan Wolf, wedi ysgogi dadl ehangach am werth rhai cymwysterau galwedigaethol a’r ffordd y caiff llais y cyflogwyr ei gyfleu orau gan y rheini sy'n datblygu cymwysterau. Byddwn yn atgyfnerthu cymwysterau galwedigaethol â chredydau i ddiwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr ac addysg uwch yn well yng Nghymru, wrth gyfrannu at y safonau a'u gwella.

 

Yn ystod y rhaglen Diwygio Cymwysterau Galwedigaethol, beirniadodd sefydliadau addysg yng Nghymru nifer fechan o Gynghorau Sgiliau Sector am eu diffyg ymgynghori wrth wneud penderfyniadau sy’n arwain at gael gwared â hen gymwysterau galwedigaethol neu ddatblygu rhai newydd.  

 

Fel rhan o ddiwygio Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau a Chynghorau Sgiliau Sector, y bwriad yw lleihau rôl y Cynghorau Sgiliau Sector wrth ddatblygu Cymwysterau Galwedigaethol ac yn y broses gymeradwyo. Golyga hyn y gall Cynghorau Sgiliau Sector golli rhywfaint o’u gallu i ryngweithio’n uniongyrchol â darparwyr addysg. Yng Nghymru, felly, bydd angen i ni ystyried ffyrdd effeithiol o gynnal cysylltiadau rhwng Cynghorau Sgiliau Sector a darparwyr addysg/hyfforddiant ac annog cysylltiadau cynaliadwy yn uniongyrchol rhwng cyflogwyr a darparwyr addysg/hyfforddiant. Yr ydym yn credu y dylai Cynghorau Sgiliau Sector ddefnyddio rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli a datblygu perthynas weithio agosach gyda’r Gwasanaeth Gyrfaoedd diwygiedig yng Nghymru er mwyn cynnal y cysylltiadau hyn.

 

3h.      Deall anghenion sgiliau

 

Yr ydym yn gweithio i gryfhau’r wybodaeth am y farchnad lafur sydd ar gael i roi gwybod i ddysgwyr a chyflogwyr am y dewisiadau buddsoddi, cynlluniau darparwyr, a datblygiadau polisi yn y llywodraeth a thu hwnt. Bydd ein dealltwriaeth o’r materion cyflenwi a galw am sgiliau yng Nghymru’n cael ei chryfhau’n sylweddol y flwyddyn nesaf gyda chyhoeddi canlyniadau’r Arolwg Sgiliau Cyflogwyr (yn cynnwys 6000 o gyflogwyr) a chreu Uned Gwybodaeth am y Farchnad Lafur, Llywodraeth Cymru. Er bod gan Wybodaeth am y Farchnad Lafur rôl bwysig i’w chwarae i’n cynorthwyo ni i gynllunio’n effeithiol ar gyfer y dyfodol, mae hefyd yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, i ni fuddsoddi i gyfleu a thargedu’r negeseuon o'r wybodaeth hon yn effeithiol, er mwyn ein cynorthwyo i greu marchnad fwy gwybodus (galw) ar gyfer sgiliau. Fel rhan o’n prosiect Gwybodaeth am y Farchnad Lafur eleni, byddwn yn gweithio ar gynlluniau a fydd yn galluogi unigolion i ddeall y cysylltiadau rhwng dewis cymwysterau, llwybrau gyrfa, y cyfleoedd gwirioneddol, perthnasol yn y farchnad lafur, a thueddiadau tymor hir, yn haws.

 

 

4.         DIWYGIO SYSTEMAU

 

Mae’r system sgiliau yn gymhleth ac mae’n golygu datblygu perthynas agosach a mwy effeithiol gyda chyflogwyr mewn meysydd megis datblygu’r gweithlu a phrentisiaethau, yn ogystal â sicrhau bod ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant a phrifysgolion yn arfogi unigolion gyda’r sgiliau, y wybodaeth, yr agweddau a'r cymwyseddau sydd eu hangen arnynt i gyfrannu'n llawn.

 

4a.       Ysgolion

 

Mae’n bwysig bod ein system ysgolion yn arfogi pobl ifanc gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer astudio ymhellach ac ar gyfer y gweithle.Mae PISA yn profi i ba raddau y mae myfyrwyr, tuag at ddiwedd eu cyfnod mewn addysg orfodol, wedi ennill y sgiliau hynny ac y maent yn gallu eu defnyddio. Fel rhan o’r ymgyrch i gynyddu cyrhaeddiad, byddwn yn: 

 

4b.       Cyfraniad Addysg Uwch

 

Mae sefydliadau addysg uwch yn cyfrannu at economi Cymru mewn sawl ffordd. Yn gyntaf, o ran cyflenwi, ble maent yn darparu pobl sydd wedi’u hyfforddi’n dda i’r farchnad lafur, ac yn cynhyrchu sgil-effeithiau cyffredinol o ran gwybodaeth a thechnoleg a all symbylu twf economaidd. Yn ail, o ran y galw fel prif gyflogwyr, prynwyr nwyddau a gwasanaethau a recriwtwyr myfyrwyr sy’n gwario arian yn yr economi leol.

Yr ydym yn gwybod bod gan sgiliau da rôl i’w chwarae i gynorthwyo Cymru i lwyddo yn yr economi gwybodaeth.Yr ydym yn gweld Prifysgolion, sy’n ymateb i’r newid mewn galw, yn cynnig rhagor o gyrsiau rhan amser, a rhaglenni cymwysterau proffesiynol rhan amser, ac yn hyrwyddo graddau Sylfaenol sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol ag anghenion cyflogwyr.Erbyn hyn, mae oddeutu 3000 o bobl wedi elwa o’r cynllun Go Wales, sy’n cefnogi cadw graddedigion yn yr economi yng Nghymru drwy eu lleoli â chyflogwyr. Dan arweiniad CCAUC, mae Prifysgolion hefyd yn gweithio i sicrhau bod cynnwys a chydbwysedd astudiaethau israddedigion yn cydnabod cyfleoedd yn y farchnad lafur, er enghraifft ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, a meysydd proffesiynol eraill, er enghraifft cyfrifyddiaeth a busnes. 

 

Mae canlyniadau’r Arolwg Rhyngweithiad Addysg Uwch – Busnes a Chymuned (HEBCIS 2009/10) diweddaraf yn dangos bod prifysgolion Cymru yn perfformio’n well yn gyffredinol o ran rhyngweithio â busnesau a hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth. Mae Cymru yn mynd y tu hwnt i’r gyfran enwol o 5 y cant mewn sawl maes, gan gynnwys nifer y cwmnïau deillio neu gwmnïau cychwyn graddedigion a gwaith ymchwil a gyllidir gan y sector cyhoeddus/preifat. Fodd bynnag, nid ydym yn perfformio cystal mewn ymchwil contract a refeniw o Eiddo Deallusol.

 

Yn y gorffennol, rydym wedi cael problem ddifrifol yng Nghymru: gormod o sefydliadau bach a gormod o unedau ymchwil bach, heb y màs critigol sydd ei angen i wireddu effeithlonrwydd neu ennill cyfran dda o incwm ymchwil. Mae angen i Addysg Uwch yng Nghymru newid i fodloni heriau’r tueddiadau demograffig a’r gystadleuaeth gynyddol, yn y DU ac yn rhyngwladol, ar gyfer academyddion talentog, myfyrwyr a chyllid ymchwil. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi agenda ar gyfer mwy o gydweithio rhwng sefydliadau ac ailstrwythuro’r sector Addysg Uwch yn gyfan gwbl.Mae CCAUC wedi cyflwyno adroddiad yn nodi ei argymhellion mewn ymateb i gais gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau am gyngor ynghylch strwythur y sector yn y dyfodol. Cyhoeddir yr adroddiad.Ymgynghorir ar gynigion y Cyngor er mwyn rhoi cyfle i randdeiliaid gyflwyno eu safbwyntiau.

 

Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau yr adferir enw da Addysg Uwch yng Nghymru yn fyd-eang yn y dyfodol.Bydd hyn yn gyfrwng i Sefydliadau Addysg Uwch wneud y gorau ar y cyfleoedd a ddarperir gan frand byd-eang cryf.  

 

4c.       Trawsnewid

 

Mae angen rhagoriaeth, creadigrwydd, arloesedd a dyhead arnom ar draws y system sgiliau gyfan er mwyn i bawb gyflawni eu potensial. Bydd yr Agenda Trawsnewid yn cynorthwyo i ysgogi perfformiad a gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y ddarpariaeth drwy drawsnewid y ddarpariaeth cyn ac ar ôl 16 yng Nghymru.Mae swyddogion wrthi’n datblygu dull o resymoli’r ddarpariaeth cyn ac ar ôl 16 i sicrhau bod gan ddysgwyr y strwythurau mwyaf effeithlon ac effeithiol ar waith i gefnogi dysgu o safon uchel. Bydd hyn yn adeiladu ar ddatblygiadau sydd eisoes yn bodoli ac yn gyson ag adolygiad CCAUC o ddarpariaeth Sefydliadau Addysg Uwch a’r ymateb i argymhellion adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol ar Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru.

 

4d.       Addysg Bellach

 

Yr ydym wedi gweithio â darparwyr Addysg Bellach i sefydlu trefniadau cyllido tair blynedd.Bydd hyn yn rhoi sefydlogrwydd a'r gallu i gynllunio mewn amgylchedd mwy cynaliadwy wrth i Weinidogion ystyried bwrw ymlaen â chanlyniadau Adolygiad Llywodraethu Addysg Bellach a chynnal adolygiad sylfaenol o drefniadau cynllunio a chyllido ôl-16, a bydd y canlyniadau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn gyfan gwbl erbyn 2014/15.Bydd y datblygiadau hyn yn ddulliau allweddol o newid cefndir cyflenwi sgiliau yng Nghymru. Yr wyf hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Sector i ddilyn cynigion adolygiad Viv Thomas i strwythur addysg yng Nghymru.

 

 


 

Atodiad 1

                                               

 

Math o Fusnes

 

Darparu

cyngor, cyfarwyddyd

a gwybodaeth

Y Dewisiadau Cymorth sydd ar gael

BmP

ELMS

Sgiliau Sylfaenol

ReAcT

Rhaglenni

Hyfforddiant cyn-recriwtio

A.B. / A. U.

Cynlluniau’r

UE

Hyblyg Dethol a Dewisol

 

Busnesau Angori

·         Swyddogion

·         Ymgynghorydd Datblygu Adnoddau Dynol

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

Busnesau sy’n

Bwysig yn Rhanbarthol

 

·         Swyddogion

·         Ymgynghorydd Datblygu Adnoddau Dynol

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Sectorau Blaenoriaeth

 

 

·         Ymgynghorydd Datblygu Adnoddau Dynol

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Busnesau Twf

 

·         Ymgynghorydd Datblygu Adnoddau Dynol

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

Busnesau

Eraill

 

 

50+ o weithwyr

 

 

·         Ymgynghorydd Datblygu Adnoddau Dynol

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

Ar gael os bydd cwmnïau bach yn cyfuno i ffurfio grwpiau mwy

 

 

Ydy

 

Ydy

 

Ystyrir fesul achos yn erbyn meini prawf y cytunwyd arnynt

49 o weithwyr neu lai

·         Llinell Gymorth 

·         Ymgynghorydd Datblygu Adnoddau Dynol, os yw’n briodol

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Ydy

 

Yes

 

Yes